|
Gall pob busnes Nwyddau a Gwasanaethau Amgylcheddol o fewn Cymru fod yn rhan o’n Rhwydwaith Aelodau - er ei fod wedi ei anelu at fusnesau yng Nghymru Amcan Un. Mae aelodaeth yn rhoi mynediad i’r adnoddau a gynhwysir yn adran aelodau ein gwefan. Mae rhan o’r Rhwydwaith Aelodau EGSi hefyd yn hyrwyddo busnesau drwy Grwpiau Datblygu Diwydiannol (IDG) is-sector. Nod y grwpiau hyn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w haelodau ar rai o’r datblygiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth a chyfleoedd busnes yn eu sector neilltuol. Mae grwpiau IDG hefyd yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio gyda busnesau eraill a medrant ddarparu gwybodaeth arbenigol i aelodau cymwys. I wneud cais am aelodaeth o wefan EGSi a’r Rhwydwaith Grwp Datblygu Diwydiannol, llenwer y ffurflen ar-lein ddilynol neu lawrlwytho’r ffurflen fel dogfen Word ac e-bostio’r ffurflen wedi’i llenwi at egsi@wda.co.uk. Mae aelodaeth yn DDI-DÂL ond gall gymryd ychydig ddyddiau i EGSi ddilysu eich manylion. Nodyn - os ydych yn llenwi’r ffurflen ar-lein islaw, nodwch pa un o’r is-sectorau dilynol a gredwch sy’n disgrifio eich sefydliad orau (gan fod y grwpiau diwydiant hyn un ai’n weithgar neu’n cael eu datblygu) a chynnwys hyn yn adran ‘Sector Diwydiant’ y ffurflen:
Dwr (yn cynnwys Triniaeth Dwr a Dwr Gwastraff, Monitro ac Offerynwaith Amgylcheddol, Rheoli Llygredd Morol) Modurol (yn cynnwys Rheolaeth Gwastraff, Ailgylchu, Rheolaeth Ynni, Rheoli Llygredd Awyr) Gwastraff Gwledig (yn cynnwys Diwydiant Tirlun, Rheolaeth Gwastraff, Adfer Tir Llygredig, Ailgylchu)Dim yn ffitio’n llawn gyda’r uchod neu mewn is-sector arall e.e. Rheoli Swn a Dirgryniad, Gwasanaethau Amgylcheddol, neu Ynni Adnewyddadwy? Neu ddim ond math arall o fonitro amgylcheddol neu ailgylchu ac ati? Peidiwch poeni. Nodwch islaw y disgrifiad gorau o’ch is-sector yn y ‘Sector Diwydiant’ hyd yn oed os nad ydych yn ffitio’n llawn.Nodwch hefyd os ydych yn barod i’ch manylion cyswllt gael eu hyrwyddo i fusnesau yn chwilio am eich cynnyrch neu wasanaethau.
|