Skip to main content

Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG)

Allweddi Cyrchu

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu hyn i welywio?r safle:

Utilities Navigation

Section Navigation

Adroddiad dichonolrwydd Oblygiad Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddol (RTFO)

Yn Adroddiad Cyn-Cyllideb 2004, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n edrych ar y posibilrwydd o Oblygiad Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddol (RTFO), ar linellau’r Oblygiad Adnewyddol sy’n bodoli yn y sector cynhyrchu p?er.

Byddai RTFO yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr tanwydd trafnidiaeth sicrhau fod canran o’u gwerthiant yn y DU o ffynhonnell adnewyddol. Byddai defnydd biodanwyddau yn gostwng cyfraniad y sector trafnidiaeth at newid hinsawdd. Medrent hefyd gael eu cymysgu gyda thanwyddau mwy confensiynol a’u rhedeg mewn ceir heb eu haddasu ar flendiau isel.

Canfu’r astudiaeth y medrid cyflwyno RTFO erbyn Ebrill 2008. Y manteision yn 2010 fyddai tua 1 miliwn tunnell o garbon y flwyddyn ar 5% o holl werthiannau tanwydd ffordd o’r sector trafnidiaeth - rhwng 2 a 3 y cant o ollyngiadau trafnidiaeth. Erbyn 2020 dylai biodanwyddau "ail genhedlaeth" yn defnyddio porthiant gwerth is megis gwella hyd yn oed ddeunyddiau gwastraff organig fod ar gael. Medrai technolegau biodanwydd uwch hefyd roi carreg gamu i hydrogen a gynhyrchwyd yn adnewyddol.

Byddai cyflwyno RTFO yn rhoi mwy o sicrwydd i’r diwydiant i fuddsoddi mewn cynhyrchu biodanwydd ar gyfer y tymor hwy, ysgogi arloesedd a datblygiadau mewn technoleg. Byddai cyfran gynyddol o danwyddau trafnidiaeth adnewyddol yn ein heconomi hefyd yn cyfrannu at amrywiaeth a sicrwydd cyflenwad ynni'r DU.

Erbyn 2050 amcangyfrifir y medrai’r DU gynhyrchu cymaint â thraean o’i anghenion ynni trafnidiaeth o fiomas, ond bydd gan fewnforion ran bwysig hefyd, a medrai RTFO helpu i roi marchnad allforio werthfawr ar gyfer y byd sy’n datblygu. Mae Brasil eisoes yn arwain y farchnad mewn cynhyrchu bioethanol (estynnydd petrol) ac mae’r rhagolygon ar gyfer cynhyrchu yn Affrica eisoes yn cael eu hymchwilio. Fodd bynnag, bydd cynaliadwyedd cyflenwadau yn fater pwysig.

Ni chymerwyd unrhyw benderfyniadau am sut yn union y byddai RTFO yn gweithredu. Mae’r adroddiad yn nodi dyluniad posibl ac yn gwneud cyfres o argymhellion yn dilyn gwaith gydag adrannau Llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig, budd-ddeiliaid ac ymgynghorwyr. Cynhelir ymgynghoriad trwyadl ar yr agweddau dylunio manwl hyn.

Darllener yr adroddiad terfynol www.dft.gov.uk/stellent/groups/dft_roads/documents/divisionhomepage/610328.hcsp

Gwelywio'r safle eto

Business Eye - Looking out for Welsh business logoMethu cael hyd i'r hyn 'rydych eisiau, holwch Llygad Busnes, eich galwad cyntaf am wybodaeth ar gymorth busnes.

Telerau ac amodau